Dyn ni bellach yn cynnal ein noson gemau bwrdd ar bob nos Fawrth yn Festri'r Eglwys rhwng 6-10yh. Mae croeso cynnes i bawb, ac os oes gennych unrhyw gemau dych chi'n hoff ohonyn nhw, beth am ddod â nhw a'u dysgu i eraill? Mae'r grwp yma dim ond ar gyfer y rhai sydd dros 18 oed.
Os ydych chi o dan 18 mae croeso i chi ddod i'n Noson Gemau Pob Oed ar yr 2il nos Sadwrn bob mis am 6yh.
Dyn ni hefyd yn trefnu confensiwn 3 diwrnod yn Y Doc, Llanelli o 15-18 Hydref. Cewch wybod mwy yma am fwy o wybodaeth neu gwelwch y poster isod er mwyn archebu tocynnau ymlaen llaw.