Dyn ni'n cwrdd am 11.00 yb bob Sul yng Nghapel Bethania ar gyfer ein hoedfa fore. Mae'r gwasanaethau yma wedi'u hanelu'n fwy ar gyfer teuluoedd ac yn dilyn thema mwy anffurfiol a chroesawgar i ymwelwyr, boed nhw'n Gristnogion aeddfed neu'n chwilfrydig am ffydd yn Iesu.
Dyn ni hefyd yn cwrdd am 6yh ar Sul cyntaf y mis ar gyfer ein hoedfa nos. Ar hyn o bryd mae'r cwrdd yma yn dilyn thema mwy traddodiadol, er ein bod ar hyn o bryd yn ceisio ail-ddychmygu y fformat mwyaf addas.
Mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng Saesneg, er ein bod yn canu ambell i emyn Cymraeg. Fel eglwys gyda nifer sylweddol o siaradwyr cymraeg dyn ni'n agored iawn i ystyried y ffyrdd fwyaf addas i anrhydeddu a gwasanaethu Cymry Cymraeg.
Mae'r oedfa fore Sul yn cael ei darlledu dros Zoom ac wedyn yn cael ei rhannu ar Youtube. Mae'n recordiadau i gyd ar gael yma.