Grym yr Eglwys yw'r cwrdd gweddï, sydd wedi bod yn rhedeg ers llawer o flynyddoedd. Dyn ni'n cynnal cyfarfod bob nos Iau yn y Festri. Weithiau dyn ni'n cynnal digwyddiadau arbennig yn ôl calendr yr Eglwys neu digwyddiadau'r byd.
Fel arfer bydd rhwng 10-15 o bobl yn dod at ei gilydd i weddio. Mae hwn yn creu gofod diogel, cyffyrddus a chynhyrfus, gyda rhyddid i bawb weddio'n uchel yn ôl arweiniad yr Ysbryd.