Gweledigaeth y Bore Coffi yw 'gofod diogel, tawel i ymlacio, gysylltu ac archwilio ffydd'
Mae Bore Coffi Dydd Gwener wedi dod yn boblogaidd iawn ymysg teulu'r Eglwys, ond mwy fyth gydag ymwelwyr. Mewn gwirionedd, mae wedi datblygu ei deulu ei hun. Fel y byddech yn disgwyl, gweinir diodydd poeth, bisgedi a thost. Mae'r bore coffi ar gyfer y rhai sy'n mwynhau sgwrsio gyda'i gilydd. Ond mae hefyd ar gfyer y rhai sydd eisiau llonydd a thawelwch. Bydd amrywiol weithgaredau a gemau ar gael i'r rhai sydd eisiau. Mae hefyd gweithgareddau a chyfryngau i helpu bobl archwilio ffydd. Os hoffech ddod â phlant bach, mae ardal chwarae ar gael.
Bob wythnos am tua 11.30yb mae rhai yn mynd drwodd i'r capel i wrando ar rhai o'r merched sy'n hoffi canu, ond wrth gwrs mae croeso i chi aros yn y festri os hoffech mwy o dawelwch.