Yn 2007, Roedd Emmanuel a Bethania yn eglwysi annibynnol yn Undeb Y Bedyddwyr Cymru. Emmanuel oedd yr eglwys saesneg ei hiaith, tra Bethania oedd yr eglwys gymraeg ei hiaith. Ar y pryd roedd Gweinidog Emmanuel, Y Parch. Bernard Haynes, yn dymuno ymddeol, ac roedd Bethania hefyd yn cael eu hunain yn ddi-weinidog. Arfer eglwysi bedyddiedig yw ceisio gweinidog newydd.
Ym mhen amser ac ar ôl sawl cyfarfod gyda Parch. Marc Owen, Ysgrifennydd Bywyd yr Eglwys, UBC, cynnigwyd y Parch Paul Smethurst i arwain y ddwy eglwys ar wahan. Dyma beth ddigwyddodd, ac ar 15fed o Fawrth, 2008, cafodd Paul ei ordeinio'n weinidog yng ngofalaeth y ddwy eglwys.
Hyd yn oed yn y dyddiau cynnar daeth yn amlwg y byddai'r eglwysi yn gryfach gyda'i gilydd, a byddai llawer o'r gweithgareddau yn cael eu rhedeg ar y cyd. Yn fuan iawn byddai'r ddwy eglwys yn cyd-addoli ar foreau Sul ac yna ar wahan gyda'r nos drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Fodd bynnag, wrth i amser fynd yn ei flaen, penderfynodd y ddwy eglwys i uno.
Felly oedd hi ar 27ain o Fehefin 2016, cynhaliwyd cwrdd eglwys gyntaf Eglwys Y Bedyddwyr Hope Gobaith. Y diaconiaid gwreiddiol oedd: Jonathan Powell, Eric Davies, Dilys Ward, Ann Jones ac Alwyn Jones gyda Jeanette Moore yn ymuno'n fuan wedyn.
Roedd yn arbennig o hyfryd fod y ddwy eglwys hon wedi uno, gan eu bod nhw wedi dechrau eu hanes fel un eglwys, Bethania. Mi wnaeth aelodau Emmanuel adael Bethania yn 1896 er mwyn sefydlu achos Saesneg. Felly, bellach mae'r ddwy eglwys bellach yn cael eu hunan yn un eglwys, aml-ieithog!